Mae rhyfeddodau gwerthfawr iawn Mewn Trindod, llawn tiriondeb: Ni welir eu dyfnderoedd da Hyd eithaf tragwyddoldeb! Rhyfeddol fawr doethineb Iôr, Mewn dirgel gynghor dwyfol: Amlygir hwn, o bryd i bryd, Yn oesoedd Byd amserol. Rhyfeddu, i drag'wyddoldeb maith, A fydd yr hirfaith orchwyl, Wrth weled Duwdod yn y Dyn, Gwel'd Tri mewn Un, - mae'n anwyl! Wrth ystyr mawredd Tri ac Un Mae deall dyn yn pallu; Erfyniaf nerth, o fewn fy nydd, Drwy gadarn ffydd i'w gredu.efel. David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822 Corph y Gaingc 1810 Caniadau Duwiol i Ieuenctid Cymru 1815 Mae rhyfeddodau gwerthfawr iawn Mewn Trindod, llawn tiriondeb: Ni welir eu dyfnderoedd da Hyd eitha' tragwyddoldeb! Rhyfeddol yw doethineb Ion Yn ei gynghorion dwyfol; Amlygir rhai'n, o bryd i bryd, Yn oesoedd byd amserol. Wrth ystyr mawredd TRI yn UN, Mae deall dyn yn pallu! Erfyniaf nerth, tra paro'm dydd, Trwy gadarn ffydd i'w gredu. Rhyfeddu byth mewn hyfryd hwyl A fydd y gorchwyl nefol, Wrth weled Duwdod yn y dyn, A Thri yn Un tragwyddol.efel. David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822 Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844 Tôn [MS 8787]: Rhuthyn (<1876) gwelir: Wrth ystyr mawredd Tri yn Un |
There are very valuable wonders In a Trinity, full of tenderness: Not to be seen are their good depths To an extreme eternity! Wonderful the great wisdom of the Lord In secret divine counsel; This is to be multiplied, from time to time, In the ages of a temporal World. Wondering, for a vast eternity, Will be the vastly long task, While seeing Divinity in the Man, Seeing Three in One, - he is beloved! By considering the majesty of Three in One, The understanding of man is fading; I will request strength, within my day, Through firm faith to believe it. There are very valuable wonders In a Trinity, full of tenderness: Not to be seen are their good depths To an extreme eternity! Wonderful is the wisdom of the Lord In his divine counsels; To be multiplied are some, from time to time, In the ages of a temporal world. By considering the majesty of THREE in ONE, The understanding of man is fading! I will request strength, while my days continue, Through firm faith to believe it. Wondering forever in a delightful joy Will be the heavenly task, While seeing Divinity in the man, And Three in One eternally.tr. 2013,15 Richard B Gillion |
Isaac Watts 1674-1748 |